WALES’ BIGGEST BOOK HEADS FOR PATAGONIA WITH A SPECIAL MESSAGEA message from First Minister Rhodri Morgan is to be included in a copy of Wales’ biggest ever book, which is to be given to the people of Patagonia.
During a special ceremony held at the Senedd in Cardiff Bay, the First Minister and Rural Affairs Minister, Elin Jones signed a copy of the Gwyddoniadur, the new Welsh language encyclopaedia which was published earlier this year, and which will be taken to Patagonia and displayed at the Welsh Library in Gaiman in the province of Chubut.
Rhodri Morgan said: “The Encyclopaedia of Wales is an excellent source of knowledge for everyone who has an interest in Wales and the Welsh. It has been described as ‘the first and last great book of Wales, no home should be without one’ so it is appropriate that a copy should be given to the people of Patagonia, where a great interest in our culture and heritage is still enjoyed thousands of miles away in South America.”
Elin Jones said: “I really hope the people of Patagonia will enjoy learning about Wales from the Encyclopaedia. It's important we share our cultural heritage and this book brings together so much fascinating information in one place.”
The encyclopaedia will be delivered to Patagonia by Rhobert ap Steffan from Llangadog who will be going to Argentina later this year to raise money for Mencap Cymru on a Trans-Andean trek and to conduct studies into the relationship between the Welsh pioneers in Patagonia and the indigenous Tehuelche Indians.
To support Mencap Cymru please visit:
www.justgiving.com/rhobertPhoto: Elin Jones, Rhobert ap Steffan, Ashley Drake, (Director, University of Wales Press), Rhodri Morgan.
LLYFR MWYAF CYMRU AR EI FFORDD I BATAGONIA GYDA NEGES ARBENNIG
Mae neges gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, i’w chynnwys yng nghopi o lyfr mwyaf Cymru, fydd yn cael ei gyflwyno i bobl Patagonia.
Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd, bu’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, yn llofnodi copi o’r Gwyddoniadur Cymraeg. Bydd y cyfeirlyfr newydd hwn, a gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni, yn cael ei gludo i Batagonia a’i roi yn y Llyfrgell Gymraeg yn Gaiman yn nhalaith Chubut.
Meddai Rhodri Morgan: “Mae Gwyddoniadur Cymru yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth i bawb sydd â diddordeb yng Nghymru ac ym mhobl Cymru. Mae wedi’i ddisgrifio fel y llyfr mawr cyntaf a’r olaf am Gymru ac ni ddylai unrhyw gartref fod hebddo. Felly, mae’n briodol ein bod ni’n rhoi copi i bobl Patagonia lle maen nhw’n dal i ymddiddori’n fawr yn ein diwylliant a’n treftadaeth filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Ne America".
Meddai Elin Jones: “Rydw i’n gobeithio’n fawr y bydd pobl Patagonia yn mwynhau dysgu am Gymru o’r Gwyddoniadur. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhannu ein hetifeddaieth ddiwylliannol ac mae’r llyfr hwn yn dod â gymaint o wybodaeth hynod ddiddorol at ei gilydd mewn un man.”
Bydd y gwyddoniadur yn cael ei danfon i Batagonia yn ddiweddarach eleni gan Rhobert ap Steffan o Langadog, ac yn ystod ei daith i’r Ariannin bydd yn ymgymryd â thaith gerdded ym mynyddoedd yr Andes er budd Mencap Cymru yn ogystal ag ymchwilio i’r arloeswyr Cymreig ym Mhatagonia a’u perthynas â’r bobl frodorol, yr Indiaid Tehuelche.
I gefnogi Mencap ymweld:
www.justgiving.com/rhobertFfoniwch Rhobert am ragor o wybodaeth ar 01550 777816.
Yn y lluniau: Elin Jones, Rhobert ap Steffan, Ashley Drake (Cyfawyddwr, Gwasg Prifysgol Cymru), Rhodri Morgan.